Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr ARGLWYDD.

2:13 A hwy a wrthodasant yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.

2:14 A llidiodd dicllonedd yr AR¬GLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.

2:15 I ba le bynnag yr aethant, llaw yr ARGLWYDD oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr ARGLWYDD, ac fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.

2:16 Eto yr ARGLWYDD a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.

2:17 Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD, ond ni wnaethant hwy felly.

2:18 A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr.

2:19 A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.

2:20 A dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais;

2:21 Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw:

2:22 I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr ARGLWYDD, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio.


2:23 Am hynny yr ARGLWYDD a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.

PENNOD 3

3:1 DYMA y cenhedloedd a adawodd yr ARGLWYDD i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan;

3:2 Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i’w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen;)

3:3 Pum tywysog y Philistiaid, a’r holl Ganaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal-hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath.

3:4 A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr ARGLWYDD, y rhai a orchmynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses.

3:5 A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid:

3:6 Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt.

3:7 Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a anghofiasant yr ARGLWYDD eu DUW;) ac a wasanaethasant Baalim, a’r llwyni.

3:8 Am hynny dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel, ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan-risathaim wyth mlynedd.

3:9 A meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.

3:10 Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r ARGLWYDD a roddodd yn ei law ef Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan-risathaim.

3:11 A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.