Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

12 ¶ A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg y’ngolwg yr Arglwydd: a’r Arglwydd a nerthodd Eglon brenhin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd.

13 Ac efe a gasglodd atto feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth ac a darawodd Israel; a hwy a feddiannasant ddinas y palmwydd.

14 Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenhin Moab ddeunaw mlynedd.

15 Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gwr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gyd âg ef i Eglon brenhin Moab.

16 Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddau finiog o gufydd ei hŷd, ac a’i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddehau.

17 Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenhin Moab. Ac Eglon oedd wr tew iawn.

18 A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg.

19 Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, Y mae i mi air o gyfrinach â thi, O frenhin. Dywedodd yntau, Gosteg. A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef.

20 Ac Ehwd a ddaeth i mewn atto ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf attat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.

21 Ac Ehwd a estynodd ei law aswy, ac a gymmerth y ddager oddi ar ei glun ddehau, ac a’i brathodd hi yn ei botten ef:

22 A’r carn a aeth i mewn ar ol y llafn, a’r brasder a ymgauodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o’i botten; a’r dom a ddaeth allan.

23 Yna Ehwd a aeth allan trwy y cyntedd, ac a gauodd ddrysau yr ystafell arno, ac a’u clodd.

24 Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, fod drysau yr ystafell yn gloïedig, hwy a ddywedasant, Dïau esmwythâu ei gorph y mae efe yn yr ystafell haf.

25 A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio o honynt: ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymmerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.

26 Ac Ehwd a ddïangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau, ac a ddïangodd i Seirath.

27 A phan ddaeth, efe a udganodd mewn udgorn ym mynydd Ephraim: a meibion Israel a ddisgynasant gyd âg ef o’r mynydd, ac yntau o’u blaen hwynt.

28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ol ef, ac a ennillasant rydau yr Iorddonen tu a Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.

29 ¶ A hwy a darawsant o’r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymmus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddïangodd neb.

30 Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.

31 ¶ Ac ar ei ol ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a darawodd o’r Philistiaid chwe channwr âg irai ychain: yntau hefyd a waredodd Israel.


Pennod IV.

1 Deborah a Barac yn eu gwaredu hwy oddi wrth Jabin a Sisera. 21 Jäel yn lladd Sisera.

A meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd, wedi marw Ehwd.

2 A’r Arglwydd a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenhin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hazor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd.

3 A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: canys naw càn cerbyd haiarn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymmodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd.

4 ¶ A Deborah y brophwydes, gwraig Lapidoth, y hi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw.

5 Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Deborah, rhwng Ramah a