Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pennod XV.

1 Samson yn cael nâg am ei wraig. 3 Yntau yn llosgi ŷd y Philistiaid â llwynogod ac â ffaglau. 6 Y Philistiaid yn llosgi ei wraig ef a’i thad. 7 Samson yn eu taro hwynt glun a morddwyd. 9 Gwŷr Judah yn ei rwymo ef, ac yn ei draddodi i’r Philistiaid. 14 Yntau yn eu lladd hwynt â gên asyn. 18 Duw yn gwneuthur y ffynnon En-haccore iddo ef yn Lehi.

Ac wedi talm o ddyddiau, yn amser cynhauaf y gwenith, Samson a aeth i ymweled â’i wraig â mỳn gafr; ac a ddywedodd, Mi a âf i mewn at fy ngwraig i’r ystafell. Ond ni chaniattâi ei thad hi iddo ef fyned i mewn.

2 A’i thad a lefarodd, gan ddywedyd, Tybiaswn i ti ei chasâu hi; am hynny y rhoddais hi i’th gyfaill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi? bydded honno i ti, attolwg, yn ei lle hi.

3 ¶ A Samson a ddywedodd wrthynt, Difeiach ydwyf y waith hon na’r Philistiaid, er i mi wneuthur niwed iddynt.

4 A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod; ac a gymmerth ffaglau, ac a drodd gynffon at gynffon, ac a osododd un ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol.

5 Ac efe a gynneuodd dân yn y ffaglau, ac a’u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn nôd y dasau, a’r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a’r olew-wydd.

6 ¶ Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth hyn? Hwythau a ddywedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a’i rhoddi i’w gyfaill ef. A’r Philistiaid a aethant i fynu, ac a’i llosgasant hi a’i thad â thân.

7 ¶ A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, etto mi a ymddïalaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf.

8 Ac efe a’u tarawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghoppa craig Etam.

9 ¶ Yna y Philistiaid a aethant i fynu, ac a wersyllasant yn Judah, ac a ymdaenasant yn Lehi.

10 A gwŷr Judah a ddywedasant, Pahana y daethoch i fynu i’n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y daethom i fynu, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau.

11 Yna tair mil o wŷr o Judah a aethant i goppa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.

12 Dywedasant hwythau wrtho, I’th rwymo di y daethom i waered, ac i’th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain.

13 Hwythau a’i hattebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y’th rwymwn di, ac y’th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni’th laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a’i dygasant ef i fynu o’r graig.

14A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod âg ef. Ac yspryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; a’r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a’r rhwymau a ddattodasant oddi am ei ddwylaw ef.

15 Ac efe a gafodd ên asyn îr; ac a estynodd ei law, ac a’i cymmerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr.

16 A Samson a ddywedodd, A gên asyn, pentwr ar bentwr; â gên asyn y lleddais fil o wŷr.

17 A phan orphenodd efe lefaru, yna efe a daflodd yr ên o’i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramath-lehi.

18 ¶ Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dïenwaededig?

19 Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr ên, fel y daeth allan ddwfr o hono; ac efe a yfodd, a’i yspryd a ddychwelodd, ac efe a adfywiodd: am hynny y galwodd efe ei henw En-haccore, yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn.

20 Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd.


Pennod XVI.

1 Samson yn dïangc yn Gazah, ac yn dwyn ymaith ddrysau porth y ddinas. 4 Dalilah, wedi ei gwobri gan y Philistiaid, yn hudo Samson. 6 Yntau yn ei thwyllo hi deirgwaith. 15 Hithau o’r diwedd yn ei orchfygu ef. 21 Y Philistiaid yn ei ddala, ac yn tynnu ei lygaid ef. 22 Yntau wedi adnewyddu ei gryfder, yn tynnu y tŷ i lawr am ben y Philistiaid, ac yn marw.