Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º1 YNA Samson a aeth i Gasa; ac a ganfu yno buteinwraig, ac a aeth i ‘ mewn ati hi.

º2 A mynegwyd i’r Gasiaid, gan ddy¬wedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddy¬wedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a’i lladdwn ef.

º3 A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith a hwynt ynghyd â’r bar, ac a’u gosododd ar ei ysgwyddau, ac a’u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn a Hebron.

º4 Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a’i henw Dalila.

º5 Ac argiwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny ati hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i’w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian.

º6 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, atolwg, ym mha fan y mae dy fawr nerth di, ac a pha beth y’th rwymid i’th gystuddio.

º7 A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi a saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

º8 Yna argiwyddi’r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a’i rhwymodd ef a hwynt.

º9 (A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell.) A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd a’r tân: felly ni wybuwyd ei gryfder ef.

º10 A dywedodd Dalila wrth Samson, Ti a’m twyflaisi;, ac a-ddywedaist gelwydd


wrthyf: yn awr mynega i mi, atolwg, & reuodd ef gystuddio’ efj a’i’ nertfa a pha beth y gellid dy rwymo.

º11 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi a rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith a hwynt; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

º12 Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a’i rhwymodd ef & hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a’u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau.

º13 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, a pha beth y’th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen yng-hyd a’r we.

º14 A hi a’i gwnaeth yn sicr a’r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrodd o’i gwsg, ac a aeth ymaith a hoel y garfan, ac a’r we.

º15 A hi a ddywedodd wrtho ef. Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a’th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y’m twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym rnha fan y mae dy fawr nerth.

º16 Ac oherwydd ei bod hi yn ei fiino ef a’i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef) ei enaid a ymofidiodd i farw:

º17 Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i DDUW ydwyf fi o groth fy main. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

º18 A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddaethant i fyny ad hi, ac a ddygasant anan yn eu dwylo.

º19 A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddech- ymadawodd oddi wrtho.

º20 A hi a ddywedodd, Y mae y Phnistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrodd o’i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr ARGLWYDD wedi cilio oddi wrtho.

º21 Ond y Philistiaid a’i daliasant ef, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a’i dygasant ef i waered i Gasa, ac a’i rhwymasant ef a gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy.

º22 Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn, ar ôl ei eillio.