Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2:22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd. Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall.

2:23 Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda’i chwegr.

PENNOD 3 3:1 Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti?

3:2 Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu.

3:3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed.

3:4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych.

3:5 A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.

3:6 A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi.

3:7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.

3:8 Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrodd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.

3:9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti.

3:10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr ARGLWYDD; dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad, aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog.

3:11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti.

3:12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.

3:13 Aros heno; a’r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran i cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi, yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr ARGLWYDD: cwsg hyd y bore.

3:14 A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu.

3:15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a’i gosododd arni: a hi a aeth i’r ddinas.

3:16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi.

3:17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr.

3:18 Yna y dywedodd hithau, Aros fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr, nes gorffen y peth hyn heddiw.

PENNOD 4 4:1 Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyf¬athrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho. Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.

4:2 Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.

4:3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.

4:4 A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Pryn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf.

4:5 Yna y dywedodd Boas, Y diwr-