Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/286

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

nod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.

4:6 A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy eti¬feddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau.

4:7 A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.

4:8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.

4:9 A dywedodd Boas wrth yr henur¬iaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.

4:10 Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mah¬lon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.

4:11 A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dy di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dy Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:

4:12 Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddug Tamar i Jwda, o’r had yr hwn a ddyry yr ARGLWYDD i ti o’r llances hon.

4:13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r ARGLWYDD a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fab.

4:14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfath¬rachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.

4:15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.

4:16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.

4:17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.

4:18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,

4:l9 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,

4:20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson a Nahson a genhedlodd Salmon,

4:21 A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed,

4:22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.


LLYFR CYNTAF SAMUEL;

YR HWN A ELWIR HEFYD

LLYFR CYNTAF Y BRENHINOEDD.

PENNOD 1

1:1 Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratewr:

1:2 A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant.

1:3 A’r gŵr hwn a ai i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i ARGLWYDD y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r ARGLWYDD yno.


1:4 Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau.

1:5 Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr ARGLWYDD a gaeasai ei chroth hi;