Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/287

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1:6 A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r ARGLWYDD gau ei bru hi.

1:7 Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr ARGLWYDD, hi a’i cythruddai hi felly, fel yr wylai, ac na fwytai.

1:8 Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?

1:9 Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr ARGLWYDD.)

1:10 Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD, a chan wylo hi a wylodd.

1:11 Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.

1:12 A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr ARGLWYDD, i Eli ddal sylw ar ei genau hi.

1:13 A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent, a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw.

1:14 Ac Eli a ddywedodd wrthi hi. Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt.

1:15 A Hanna a atebodd, ac a ddywed¬odd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais, eithr tywelltais fy enaid gerbron yr ARGLWYDD.

1:16 Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn.

1:17 Yna yr atebodd Eli, ac a ddywed¬odd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef.

1:18 A hi a ddywedodd, Caffed dy law¬forwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.

1:19 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r ARGLWYDD a’i cofiodd hi.

1:20 A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr ARGLWYDD y dymunais ef, eb hi.

1:21 A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r ARGLWYDD yr aberth blynyddol, a’i adduned.

1:22 Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr ARGLWYDD, ac y trigo byth.

1:23 Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr ARGLWYDD a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.

1:24 A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr ARGLWYDD yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc.

1:25 A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.

1:26 A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.

1:27 Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r ARGLWYDD a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo:

1:28 Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r ARGLWYDD; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r ARGLWYDD. Ac efe a addolodd yr ARGLWYDD yno.

PENNOD 2

2:1 A HANNA a weddïodd, ac a ddywed¬odd, Llawenychodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD; fy nghorn a ddyrchafwyd, yn yr ARGLWYDD: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di.

2:2 Nid sanctaidd neb fel yr AR-