Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:16 Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

3:17 Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt.

3:18 A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr ARGLWYDD yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.

3:l9 A chynyddodd Samuel; a’r AR¬GLWYDD oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear.

3:20 A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr ARGLWYDD oedd Samuel.

3:21 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr ARGLWYDD a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr ARGLWYDD. ‘

PENNOD 4

4:1 A daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec.

4:2 A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gad a ymgyfarfu, a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.

4:3 A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.

4:4 Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod AR¬GLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno ye oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw.

4:5 A phan ddaeth arch cyfamod yr ARGLWYDD i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant a bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.

4:6 A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr ARGLWYDD a ddaethai i’r gwersyll.

4:7 A’r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i’r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn.

4:8 Gwae ni! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid a’r holl blâu yn yr anialwch.

4:9 Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.

4:10 A’r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i’w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed.

4:11 Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.

4:12 A gŵr o Benjamin a redodd o’r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben.

4:13 A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i’r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd.

4:14 A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A’r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli.

4:15 Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled.

4:16 A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o’r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o’r fyddin. A dywedodd yntau. Pa beth a ddigwyddodd, fy mab?

4:17 A’r gennad a atebodd, ac a ddywed¬odd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl, a’th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd.