Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:18 A phan grybwyllodd efe am arch Duw, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth; a’i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gŵr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd.

4:19 A’i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, yn agos i esgor: a phan glybu son ddarfod dal arch Duw, a marw o’i chwegrwn a’i gŵr, hi a ymgrymodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni.

4:20 Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab. Ond nid atebodd hi, ac nid ystyriodd.

4:21 A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch Duw, ac am ei chwegrwn a’i gŵr.)

4:22 A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch Duw a ddaliwyd.

PENNOD 5

5:1 A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod.

5:2 A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon.

5:3 A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le.

5:4 Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.

5:5 Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.

5:6 A thrwm fu llaw yr ARGLWYDD ar yr Asdodiaid; ac efe a’u distrywiodd hwynt, ac a’u trawodd hwynt, sef Asdod a’i therfynau, â chlwyf y marchogion.

5:7 A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw.

5:8 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno.

5:9 Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr ARGLWYDD yn erbyn y ddinas a dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd.

5:10 Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i’n lladd ni a’n pobl.

5:11 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch Duw Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas; trom iawn oedd llaw Duw yno.

5:12 A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd.

PENNOD 6

6:1 A bu arch yr ARGLWYDD yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd.

6:2 A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr AR¬GLWYDD? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.

6:3 Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi.