Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/308

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.

º20 A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo.

º21 A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagi, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng " nghyfraith i mi heddiw.

º22 A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch a Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha a’r brenin.

º23 A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu a brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael?

º24 A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd.

º25 A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid.

º26 A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu a’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto.

º27 Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfath¬rachu ohono ef a’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.

º28 A Saul a welodd ac a wybu fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef.

º29 A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth.

º30 Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.

PENNOD 19

º1 A SAUL a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.

º2 Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia:

º3 A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf a’m tad o’th blegid di; a’r hyn a welwyf, mi a’i mynegaf i ti.

º4 A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddy¬wedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i’th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.

º5 Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a’r AR¬GLWYDD a wnaeth iachawdwnaeth mawr i holl Israel: ti a’i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos?

º6 A Saul a wrandawodd ar lais Jona¬than; a Saul a dyngodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni leddir ef.

º7 A Jonathan a alwodd ar Dafydd; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn. A Jonathan a ddug Dafydd at Saul: ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt.

º8 A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a’u trawodd hwynt a lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef.

º9 A’r drwg ysbryd oddi wrth yr AR¬GLWYDD oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dy a’i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu a’i law.,

º10 A cheisiodd Saul daro a’i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau