Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/316

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn.

º14 I Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, .Wele, Dafydd a anfonodd genhadau a’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni, ond efe a’u difenwodd hwynt.

º15 A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes.

º16 Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid.

º17 Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dy ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef.

º18 Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a’u gosododd ar asynnod.

º19 A hi a ddywedodd wrth ei gweision, Cerddwch o’m blaen i; wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi.

º20 Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn; a hi a gyfarfu a hwynt.

º21 A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda.

º22 Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw.

º23 A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr,

º24 Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd, a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn.

º25 Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nbal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist.

º26 Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r ARGLWYDD dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal.

º27 Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd.

º28 A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr ARGLWYDD gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr ARGLWYDD, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.

º29 Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r ARGLWYDD dy DDUW; ac enaid dy elynion a chwyrn deifl efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl.

º30 A phan wnelo yr ARGLWYDD i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y’th osodo di yn llaenor ar Israel;

º31 Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, nefl ddial o’m harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.

º32 iA dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i:

º33 Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendiegedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun.

º34 Canys yn wir, fel y mae ARGLWYDD DDUW Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un a bisai ar bared.