Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/326

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:13 A dywedodd yntau. Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddy¬wedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb.

3:14 A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid.

3:15 Ac Isboseth a anfonodd, ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel mab Lais.

3:16 A’i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.

3:17 Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch.

3:18 Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr ARGLWYDD a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion.

3:19 Dywedodd Abner hefyd wrth Ben¬jamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel, ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin.

3:20 Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gydag ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr oedd gydag ef.

3:21 A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.

3:22 Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch.

3:23 Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddy¬wedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe ai gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch.

3:24 A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?

3:25 Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.

3:26 A Joab aaeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira; heb wybod i Dafydd.

3:27 A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a’i trodd ef o’r neilitu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn hedd¬wch; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.

3:28 Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr ARGLWYDD byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:

3:29 Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dy ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.

3:30 Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.


3:31 A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.

3:32 A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant.

3:33 A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?:

3:34 Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi, mewn egwydydd: syrthaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.

3:35 A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego,