Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/327

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul.

3:36 A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.

3:37 A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.

3:38 A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?

3:39 A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meib¬ion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr ARGLWYDD a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.

PENNOD 4

4:1 A phan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant.

4:2 A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin:

4:3 A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)

4:4 Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth.

4:5 A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.

4:6 Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant.

4:7 A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef, ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos.

4:8 A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r ARGLWYDD a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.

4:9 A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimmon y Beeroth¬iad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra,

4:10 Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl:

4:11 Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear?

4:12 A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.

PENNOD 5

5:1 Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni.

5:2 Cyn hyn hefyd; pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.

5:3 Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, ger bron