yr ARGLWYDD: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.
4 Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe.
5 Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.
6 A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma.
7 Ond Dafydd a enillodd amddinynfa Seion: honno yw dinas Dafydd.
8 A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ.
9 A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn.
10 A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd oedd gydag ef.
11 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd.
12 A gwybu Dafydd i’r ARGLWYDD ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.
13 A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.
14 A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon,
15 Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,
16 Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.
17 Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa.
18 A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
19 A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.
20 A Dafydd a ddaeth i Baal-perasim; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal-perasim.
21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt.
22 A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
23 A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o’r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd.
24 A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr ARGLWYDD a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid.
25 A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.
Pennod VI.
1 Dafydd yn cyrchu yr arch o Ciriath-jearim ar fèn newydd. 6 Taro Uzzah yn Peres-Uzzah. 11 Duw yn bendithio Obed-Edom o achos yr arch. 12 Dafydd yn dwyn yr arch i Sïon gyd âg aberthau, ac yn dawnsio o’i blaen hi: a Michal yn ei ddirmygu ef am hynny. 17 Efe yn gosod yr arch mewn pabell, gyd â llawenydd mawr a gwledda. 20 Michal, am geryddu Dafydd am ei lawenydd duwiol, yn ammhlantadwy hyd farwolaeth.
A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar bugain.
2 A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.
3 A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd, ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.