Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/329

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4 A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibeah, gyd âg arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch.

5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae ger bron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac âg udgyrn, ac â symbalau.

6 ¶ A phan ddaethant i lawr-dyrnu Nachon, Uzzah a estynodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychain oedd yn ei hysgwyd.

7 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Uzzah: a Duw a’i tarawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.

8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Uzzah: ac efe a alwodd y lle hwnnw Perez-Uzzah, hyd y dydd hwn.

9 A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd attaf fi?

10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd atto ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad.

11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed-Edom y Gethiad dri mis: a’r Arglwydd a fendithiodd Obed-Edom, a’i holl dŷ.

12 ¶ A mynegwyd i’r brenhin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed-Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fynu arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.

13 A phan gychwynodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamrau, yna efe a offrymmodd ychain a phasgedigion.

14 A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni ger bron yr Arglwydd; a Dafydd oedd wedi ymwregysu âg ephod lïan.

15 Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fynu arch yr Arglwydd, trwy floddest, a sain udgorn.

16 Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu y brenhin Dafydd yn neidio, ac yn llemmain o flaen yr Arglwydd; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

17 ¶ A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a’i gosodasant yn ei lle, y’nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymmodd boeth-offrymmau ac offrymmau hedd ger bron yr Arglwydd.

18 Ac wedi gorphen o Dafydd offrymmu poeth-offrwm ac offrymmau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd.

19 Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn wr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun.

20 ¶ Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenhin Israel heddyw, yr hwn a ymddïosgodd heddyw yng ngŵydd llaw-forwynion ei weision, fel yr ymddïosgai un o’r ynfydion gan ymddïosg!

21 A dywedodd Dafydd wrth Michal, Ger bron yr Arglwydd, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd, ar Israel, y chwareuais: a mi a chwareuaf ger bron yr Arglwydd.

22 Byddaf etto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyd â’r llaw-forwynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir.

23 Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.


Pennod VII.

1 Nathan yn canmol amcan Dafydd ar adeiladu tŷ i’r Arglwydd; 4 ac ar ol hynny, trwy air Duw, yn gwarafun iddo. 12 Yn addaw iddo ddaioni a bendithion yn ei had. 18 Gweddi a dïolch Dafydd.

A phan eisteddodd y brenhin yn ei dŷ, a rhoddi o’r Arglwydd lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch:

2 Yna y dywedodd y brenhin wrth Nathan y prophwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau.

3 A Nathan a ddywedodd wrth y brenhin, Dos, gwna yr hyn oll sydd