Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poeth-offrwm?
8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth-offrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:
9 Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.
10 Ac Abraham a estynodd ei law, ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fab;
11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.
13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.
14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw Jehofah-jire; fel y dywedir heddyw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.
15 ¶ Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd;
16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fab, dy unig fab:
17 Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;
18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.
19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei langciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.
20 ¶ Darfu hefyd, wedi y pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milcah hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;
21 Hus ei gyntaf-anedig, a Buz ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,
22 A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph, a Bethuel.
23 A Bethuel a genhedlodd Rebeccah: yr wyth hyn a blantodd Milcah i Nachor brawd Abraham.
24 Ei ordderch-wraig hefyd, a’i henw Reumah, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maachah.
Pennod XXIII.
1 Oedran a marwolaeth Sarah. 3 Prynu Machpelah, 19 lle y claddwyd Sarah.
Ac oes Sara ydoedd gàn mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sarah.
2 A Sara a fu farw yng Nghaer-Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sarah, ac i wylofain am dani hi.
3 ¶ Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei gorph marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,
4 Dïeithr ac alltud ydwyf fi gyd â chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyd â chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg.
5 A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,
6 Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb o honom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.
7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymmodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;
8 Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandêwch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar;
9 Ar roddi o hono ef i mi yr ogof Machpelah, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd y’nghwrr ei faes, er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.
10 Ac Ephron oedd yn aros ym mysg meibion Heth: ac Ephron yr Hethiad a artebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, y’ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd,
11 Nag ê, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi, y’ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.