Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Prawfddarllenwyd y dudalen hon


12 Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tir.

13 Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Etto, os tydi a’i rhoddi, atolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes; cymmer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.

14 Ac Ephron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,

15 Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar càn sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.

16 Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron: a phwysodd Abraham i Ephron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar càn sicl o arian cymmeradwy ym mhlith marchnadwyr.

17 ¶ Felly y sicrhâwyd maes Ephron, yr hwn oedd ym Machpelah, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,

18 Yn feddiant i Abraham, y’ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.

19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sarah ei wraig yn ogof maes Machpelah, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan.

20 A sicrhâwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.

PENNOD XXIV.

1 Abraham yn peri i’w was dyngu. 10 Taith y gwas: 12 Ei weddi: 14 Ei arwydd. 15 Rebeccah yn ei gyfarfod ei, 18 yn cwblhâu ei arwydd ef, 22 yn derbyn tlysau, 23 yn dangos ei chenedl, 25 ac yn ei wahodd ef adref. 26 Y gwas yn benditio Duw. 29 Laban yn ei groesawu ef. 34 Y gwas yn traethu ei neges. 50 Laban a Bethuel yn foddlawn. 58 Rebeccah yn cydsynio i fyned. 62 Isaac yn cyfarfod â hi.

Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim.

2 A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:

3 A mi a bataf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg.

4 Ond i’m gwlad i yr âi, ac at fy nghenedl i yr âi di, ac a gymmeri wraig i’m mab Isaac.

5 A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ol i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan o hono?

6 A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.

7Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymmeri wraig i’m mab oddi yno.

8 Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.

9 A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.

10 ¶ A chymmerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl ddâ ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.

11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.

12 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddiant heddyw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham.

13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:

14 A bydded, mai y llangces y dywedwyf wrthi, Gogwydda, attolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddïodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â’m meistr.

15 ¶ A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeccah yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milcah, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd.

16 A’r llangces oedd dêg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r