Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fynu.

17 A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Attolwg, gâd i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên.

18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i dïododd ef.

19 A phan ddarfu iddi ei ddïodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed.

20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef.

21 A’r gwr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai nad do.

22 A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gwr glust-dlws aur, yn banner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylaw hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.

23 Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, attolwg: a oes lle i ni i lettŷa yn nhŷ dy dad?

24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milcah, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.

25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i lettŷa.

26 A’r gwr a ymgrymmodd, ac a addolodd yr Arglwydd.

27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.

28 A’r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.

29 ¶ Ac i Rebeccah yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gwr allan i’r ffynnon.

30 A phan welodd efe y clust-dlws, a’r breichledau am ddwylaw ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeccah ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gwr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gwr; ac wele efe yn sefyll gyd â’r camelod wrth y ffynnon.

31 Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a barottoais y tŷ, a lle i’r camelod.

32 ¶ A’r gwr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gyd âg ef.

33 A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwytta; ac efe a ddywedodd, Ni fwyttâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.

34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.

35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac asynod.

36 Sarah hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.

37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymmer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.

38 Ond ti a âi i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymmeri wraig i’m mab.

39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ol i.

40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd â thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymmeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad.

41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.

42 A heddyw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:

43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, attolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên;

44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.

45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeccah yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dïoda fi, attolwg.

46 Hithau a frysiodd, ac a ddis-