Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/348

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º25 Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;

º26 Ira hefyd y Jairiad oedd ben-llywydd ynghylch Dafydd.

PENNOD 21

º1 A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymo-fynnodd gerbron yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dy gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid.

º2 A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeon¬iaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.)

º3 A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac & pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr ARGLWYDD?

º4 A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dy ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi.


º5 A hwy a ddywedasant with y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel,

º6 Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf.

º7 Ond y brenin a arbedodd Meffi-boseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr ARGLWYDD yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.

º8 Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddug hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad:

º9 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a rodd-wyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd.

º10 A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos.

º11 A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul.

º12 A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul," ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Bethsan yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.

º13 Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy 9 gasglasant esgyrn y rhai a grogasid.

º14 A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn.

º15 A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef, ac a ymladdasant a’r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd.

º16 Ac Isbi-benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu a chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd.

º17 Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel.

º18 Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad