Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/349

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr.

º19 A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaare-oregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.

º20 A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i’r cawr.

º21 Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a’i lladdodd ef.

º22 Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

PENNOD 22

º1 A DAFYDD a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gan hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul.

º2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i;

º3 Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dwr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist.

º4 Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.

º5 Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i.

º6 Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant.

º7 Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef.

º8 Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio.

º9 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, â thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef.

º10 Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef.

º11 Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt.

º12 Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.

º13 Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd.

º14 Yr ARGLWYDD a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef.

º15 Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt.

º16 Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.

º17 Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.

º18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghascion; am eu bod yn drech na mi.

º19 Achubasant fy miaen. yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.

º20 Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof.

º21 Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.

º22 Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.

º23 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.

º24 bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd.,

º25 A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.

º26 A’r trugarog y gwnei drugaredd: a’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

º27 A’r glân y gwnei lendid; ac a’r cyn-dyn yr ymgyndynni.

º28 Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng.

º29 Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch.

º30 Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur.

º31 Duw sydd berffaith ei ffordd; ymad-rodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant -ynddo.

º32 Canys pwy sydd DDUW, heb