Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/358

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:8 A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd.

3:9 Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagot rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?

3:10 A’r peth fu dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, am ofyn o Solomon y peth hyn.

3:11 A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:

3:12 Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.

3:13 A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.

3:14 Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.

3:15 A Solomon a ddeffrodd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision.

3:16 Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.

3:17 A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.


3:18 Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.

3:19 A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.

3:20 A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau.

3:21 A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe.

3:22 A’r wraig arall a ddywedodd, Nage, eithr fy mab i yw y byw, a’th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.

3:23 Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab innau yw y byw.

3:24 A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin.

3:25 A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch: y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall.

3:26 Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a. lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef.

3:27 Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei farn ef.

3:28 A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.

PENNOD 4 4:1 A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel.

4:2 A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad;

4:3 Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oeddi ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur;

4:4 Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid;

4:5 Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben-llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin;