Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/359

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:6 Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.

4:7 A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.

4:8 Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim.

4:9 Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth-semes, ac Elon-bethanan.

4:10 Mab Hesed, yn Aruboth: iddo efyr oedd Socho, a holl dir Heffer.

4:11 Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.

4:12 Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.

4:13 Mab Geber oedd yn Ramoth-Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.

4:14 Ahinadab mab Ido oedd ym Mahariaim.

4:15 Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.

4:16 Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.

4:17 Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.

4:18 Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin.

4:19 Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid.y ac Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.

4:20 Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.

4:21 A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.

4:22 A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd;

4:23 Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.

4:24 Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa byd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.

4:25 Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon.

4:26 Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch.

4:27 A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim.

4:28 Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.

4:29 A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.

4:30 A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft.

4:31 Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, nai. Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.

4:32 Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump.

4:33 Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod.

4:34 Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.

PENNOD V.