Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/361

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

lled, a’r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.

6:7 A’r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu.

6:8 Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau tröedig y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd.

6:9 Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a’i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.

6:10 Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bûm cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.

6:11 A daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddywedyd,

6:12 Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf a thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad:

6:13 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.

6:14 Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a’i gorffennodd.

6:15 Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd.

6:16 Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o’r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeilad¬odd iddo o fewn, sef i’r gafell, i’r cysegr sancteiddiolaf.

6:17 A’r tŷ, sef y deml o’i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd.

6:18 A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg.

6:19 A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr ARGLWYDD.

6:20 A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a’i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.

6:21 Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a’u gwisgodd ag aur.

6:22 A’r holl dy a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.

6:23 Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn ddeg cufydd ei uchder.

6:24 A’r naill adain i’r ceriwb oedd bûm cufydd, a’r adain arall i’r cerub oedd bum cufydd: deg cufydd oedd o’r naill gŵr i’w adenydd ef hyd y cwr arall i’w adenydd ef.

6:25 A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb.

6:26 Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall.

6:27 Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared, ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall; a’u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd.

6:28 Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur;

6:29 A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwb¬iaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan.

6:30 Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.

6:31 Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a’r gorsingau oedd bumed ran y pared.

6:32 Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ac a’u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid, ac ar y palmwydd,

6:33 Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd bedwaredd ran y pared.

6:34 Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i’r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall.

6:35 Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ar-