Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/362

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

nynt; ac a’u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.

6:36 Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.: .

6:37 Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr ARGLWYDD, ym mis Sif:

6:38 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y gorffennwyd y tŷ, a’i holl rannau, a’i holl berthynasau. Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef.

PENNOD VII.

7:1 Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ.

7:2 Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau.

7:3 Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes.

7:4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.

7:5 A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwar, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.

7:6 Hefyd efe a wnaeth borth o golofn¬au, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofn¬au eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau.

7:7 Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gŵr i’r llawr hyd y llall.

7:8 Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewa y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn.

7:9 Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr.

7:10 Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd.

7:11 Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd.

7:12 Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac i borth y tŷ.

7:13 A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus.

7:14 Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a’i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe, a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.

7:15 Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy.

7:16 Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i’w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall.

7:17 Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i’r naill gnap, a saith i’r cnap arall.

7:18 Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio’r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall.

7:19 A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd.

7:20 Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a’r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall.

7:21 Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas.

7:22 Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofn¬au.

7:23 Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn