Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/363

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oddi amgylch, ac yn bûm cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.

7:24 A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd yn amgylchu’r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau.

7:25 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u pennau ôl hwynt oll o fewn.

7:26 Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo. .

7:27 Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder.

7:28 A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a’r ystlysau oedd rhwng: y delltennau:

7:29 Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a’r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau.

7:30 A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad.

7:31 A’i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a’i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystol, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a’i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion.

7:32 A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystol; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd.

7:33 Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a’u bothau, a’u camegau, a’u hadenydd, oedd oll yn doddedig.

7:34 Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o’r ystol yr oedd ei hysgwyddau hi.

7:35 Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un.

7:36 Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi, geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi amgylch.

7:37 Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll.

7:38 Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bed¬war cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl.

7:39 Ac efe a osododd bûm ystôl ar ystlys ddeau y tŷ, a phump ar yr ystlys aswy i’r tŷ: a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau.

7:40 Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr ARGLWYDD.

7:41 Y ddwy golofn, a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a’r ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau;

7:42 A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith, dwy res o bomgran¬adau i un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau;

7:43 A’r deg ystol, a’r deg noe ar yr ystolion;

7:44 Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr;

7:45 A’r crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau; a’r holl lestri a wnaeth Hiram i’r brenin Solomon, i dŷ yr ARGLWYDD, oedd o bres gloyw.

7:46 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan.

7:47 A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith.

7:48 A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr ARGLWYDD; yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;

7:49 A phum canhwyllbren o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a’r blodau, a’r llusernau, a’r gefeiliau, o aur;

7:50 Y ffiolau hefyd, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.