Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/378

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? .. ’.

º28 Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.;;

º29 Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain.

º30 Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddryg¬ioni yng ngolwg yr ARGLWYDD y tu hwnt i bawb o’i flaen ef.

º31 Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo.

º32 Ac efe. a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria.

º33 Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD DDUW Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.;’

º34 Yn ei ddyddiau efHiel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf-anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Scgub ei fab ieuangaf y gosododd efe ia phyrth hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.

PENNOD XVII.

º1 A Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i.

º2 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,

º3 DOS oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.

º4 Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno.

º5 Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr ARGLWYDD; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.

º6 A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn; ac efe a yfai o’r afon.

º7 Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad;

º8 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,

º9 Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno.

º10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddy¬wedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf.

º11 Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law.

º12 A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ysten: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw.

º13 Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny.

º14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ysten ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD law ar wyneb y ddaear.

º15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn. . ‘

º16 Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ysten ©kw ni ddarfu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias.

º17 Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef Stior gryf, fel na thrigodd anadl ynddo.

º18 A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth Sydd i mi a wnelwyf a thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffau fy anwiredd, flc i ladd fy mab?


º19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i Jnynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn