aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun.
º20 Ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac 8 ddywedodd, O ARGLWYDD fy Now, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi?
º21 Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith.
º22 A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd.
º23 Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, gwêl, byw yw dy fab.
º24 A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr ARGLWYDD yn dy enau di.
PENNOD XVIII.
º1 A ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr ARGLWYDD at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, DOS, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar, wyneb y ddaear.
º2 Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria.
º3 Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr ARGLWYDD yn fawr: ;4 Canys pan ddistrywiodd Jesebel btoffwydi yr ARGLWYDD, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cudd- aodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt a bara ac & dwfr.)
º5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, DOS i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli.
º6 Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.
º7 Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias?
º8 Yntau a ddywedodd wrtho. Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias.
º9 Dywedodd yntau. Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd?
º10 Fel mai byw yr ARGLWYDD dyDDUW, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi.
º11 Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias.
º12 A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr ARGLWYDD a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyfi fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr ARGLWYDD 6’m mebyd.
º13 Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn ‘ wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr ARGLWYDD, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr ARGLWYDD, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara ac a dwfr?
º14 Ac yn awr ti a ddywedi, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i.
º15 A dywedodd Eleias, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. ,’
º16 Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias.
º17 A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel?
º18 Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD, ac i ti rodio ar ôl Baalim.
º19 Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jezebel.