Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/380

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º20 Felly Ahab a anfonodd at holl feibioa; Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd: i fynydd Carmel.

º21 Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd. Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air.

º22 Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain.

º23 Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dan dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dan dano.

º24 A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr ARGLWYDD: a’r Duw a atebo trwy dfin, bydded efe DDUW. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant. Da yw y peth.

º25 Ac Eleias a ddywedodd wrth broff¬wydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dan dano.

º26 A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni;} ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.

º27 A bu, ar hanner dydd,’f Eleias ‘eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch a llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.

º28 A hwy a waeddasant a llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer a chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt.

º29 Ac wedi iddi fyned dros hanner dyidd, a phronwydo ohonynt nes offrymu yr hwyronrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.

º30 A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, yr hon a ddrylliasid.

º31 Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr AR¬GLWYDD ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di.

º32 Ac efe a adeiladodd a’r meini allor yn enw yr ARGLWYDD; ac a wnaeth fibs o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor.

º33 Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed;

º34 Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddy¬wedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith.

º35 A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr.

º36 A phan offrymid yr hwyronrwm, Eleias y proflwyd a nesaodd ac a ddywed¬odd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.

º37 Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwel¬odd eu calon hwy drachefn.

38 Yna tan yr ARGLWYDD a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y fibs.

º39 A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW.

º40 Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno.

º41 Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, ©os i fyny, bwyta ac yf, canys wele drwst llawcr o law.

º42 Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau;