Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/388

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AIL LYFR Y BRENHINOEDD YR HWN A ELWIR HEFYD PEDWERYDD LLYFR Y BRENHINOEDD

PENNOD 1

1:1 Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab.

1:2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn.

1:3 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn a Baal-sebub duw Ecron?

1:4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.

1:5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi?

1:6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddy¬wedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.

1:7 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?

1:8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywed¬odd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.

1:9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyda’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.

1:10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr i Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.

1:11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin. Tyred i waered yn ebrwydd.

1:12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tan o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.

1:13 A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, a’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.

1:14 Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.

1:15 Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.

1:16 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni