Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/389

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

o’r gwely y dringaist amo, eithr gan farw y byddi farw.

1:17 Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr ARGLWYDD yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef.

1:18 A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

PENNOD 2 2:1 A phan oedd yr ARGLWYDD ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal.

2:2 Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel.

2:3 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau. Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son.

2:4 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.

2:5 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â son.

2:6 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt.

2:7 A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.

2:8 Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.

2:9 Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi.

2:10 Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd.

2:11 Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd.

2:12 Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn.

2:13 Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen.

2:14 Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd. Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.

2:15 A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.

2:16 A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn. awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw