Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/412

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

º19 A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo?

º20 Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i?

º21 Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifrt * yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef.

º23 Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr ARGLWYDD ein Duw yr ydym ni ytt ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’r allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem?

º23 Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy.

º24 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m har¬glwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch?

º25 Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, DOS i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.

º26 Yna y dywedodd Eliacim mab Hiloeia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.

º27 Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu torn eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?

º28 Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd a llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria.

º29 Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i.

º30 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria.

º31 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun:

º32 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y bydd-och fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni.

º33 A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?

º34 Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw’i?

º35 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw i?

º36 Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.

º37 Yna y daeth Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrif¬ennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.

PENNOD 19 º1 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd a sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr ARGLWYDD.