Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/413

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º2 Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeinaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.

º3 A hwy a ddywedasant wrtho ef. Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyng-dra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

º4 Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael.

º5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

º6 Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

º7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw swn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

º8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis.

º9 A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela a thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddy¬wedyd,

º10 Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerw¬salem yn llaw brenin A;, yna.

º11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria 1’r holl wiedyddy gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?

º12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Rcseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar?

º13 Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

º14 y A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darilenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr ARGLWYDD.

º15 A Heseceia a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd DDUW, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear.

º16 Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

º17 Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir,

º18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

º19 Yn awr gan hynny, O ARGLWYDO ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, tydi yn unig.

º20 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria.

º21 Dyma y gair a lefarodd yr AR¬GLWYDD yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th wat-warodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di.

º22 Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erhya Sanct Israel.

º23 Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr ARGLWYDD, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef.

º24 Myfi a gloddiais; ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac a gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchae- edig.

º25 Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i Ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn gameddau dinistriol.