Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/423

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith.

1:47 A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca.

1:48 A phan fu farw Samla, Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef.

1:49 A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor.

1:50 A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef °edd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matted, merch Mesahab.

1:51 A bu farw Hadad. A dugiaid Edom oedd; dug Timna, dug Alia, dug Jetheth,

1:52 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon

1:53 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,

1:54 Dug Magdiel, dug Iram. Dyma ddugiaid Edom.

PENNOD 2 2:1 DYMA feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon,

2:2 Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.

2:3 Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf-anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac efe a'i lladdodd ef.

2:4 A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump.

2:5 Meibion Phares; Hesron a Hamul.

2:6 A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.

2:7 A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd-beth.

2:8 A meibion Ethan; Asareia.

2:9 A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.

2:10 A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda;

2:11 A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas;

2:12 A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;

2:13 A Jesse a genhedlodd ei gyntaf-anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd,

2:14 Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

2:15 Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed:

2:16 A'u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri.

2:17 Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.

2:18 A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon.

2:19 A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur.

2:20 A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.

2:21 Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub.

2:22 A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.

2:23 Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a’i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead.

2:24 Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.

2:25 A meibion Jerahmeel cyntaf-anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa.

2:26 A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a’i henw Atara: hon oedd fam Onam.

2:27 A meibion Ram cyntaf-anedig Jerah¬meel oedd, Maas, a Jaimn, ac Ecer.

2:28 A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.

2:29 Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.

2:30 A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi-blant.

2:31 A meibion Appaim; Isi. A