Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/424

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai.

2:32 A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi-blant.

2:33 A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.

2:34 Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a’i enw Jarha.

2:35 A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Altai.

2:36 Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad.

2:37 A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed,

2:38 Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia,

2:39 Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa,

2:40 Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum,

2:41 A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.

2:42 Hefyd meibion Caleb brawd Jerah¬meel oedd. Mesa ei gyntaf-anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron.

2:43 A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema.

2:44 A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai.

2:45 A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur.

2:46 Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a genhedlodd Gases.

2:47 A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff.

2:48 Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana.

2:49 Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a merch Caleb oedd Achsa.

2:50 Y rhai hyn oedd feibion Caleb S mab Hur, cyntaf-anedig Effrata; Sobal tad Ciriath-jearim,

2:51 Salma tad Bethlehem, Hateff tad Bethgader.

2:52 A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath-jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid,

2:53 A theuluoedd Ciriath-jearim oedd yr Ithriaid, a’r Puhiaid, a’r Sumathiaid, a’r Misraiaid: o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid.

2:54 Meibion Salma; Bethlehem, a’r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid.

2:55 A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethani o Hemath, tad tylwyth Rechab.

PENNOD 3

3:1 Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf-anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles:

3:2 Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith:

3:3 Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig.

3:4 Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

3:5 A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerw¬salem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:

3:6 Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,

3:7 A Noga, a Neffeg, a Jaffia,

3:8 Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.

3:9 Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.

3:10 A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau;

3:11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;

3:12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;

3:13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;

3:14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.

3:15 A meibion Joseia; y cyntaf-aaedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum.

3:16 A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.