Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/425

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:17 A meibion Jechoneia; Asshr, Salathiel ei fab yntau,

3:18 Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia.

3:19 A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei: a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt:

3:20 A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab-hesed, pump.

3:21 A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia.

3:22 A meibion Sechaneia, Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech.

3:23 A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri.

3:24 A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.

PENNOD 4

4:1 Meibion Jwda; Phares, Hesron, a Charmi, a Hur, a Sobal.

4:2 A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad. Dyma deuluoedd y Sorathiaid.

4:3 A’r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi.

4:4 A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Hur cyntaf-anedig Effrata, tad Bethlehem.

4:5 Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig, Hela a Naara.

4:6 A Naara a ddug iddo Ahusam, a Heffer, a Themeni, ac Hahastari. Dyma feibion Naara.

4:7 A meibion Hela oedd, Sereth, a Jesoar, ac Ethnan.

4:8 A Chos a genhedlodd Anub, a Sobeba, a theuluoedd Aharhel mab Harum.

4:9 Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid.

4:10 A Jabes a alwodd ar DDUW Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel na’m gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.

4:11 A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston.

4:12 Ac Eston a genhedlodd Bethrafia, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha.

4:13 A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath.

4:14 A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr; canys crefftwyr oeddynt hwy.

4:15 A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela oedd, Cenas.

4:16 A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel.

4:17 A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa.

4:18 A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered.

4:19 A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad.

4:20 A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.

4:21 A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea,

4:22 A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Sarafr, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen.

4:23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.

4:24 Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:

4:25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.

4:26 A meibion Misma; Hamuel ei