Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/432

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

aethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau-cenedl ar dy eu tadau.

º10 Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Je-hoiarib, a Jachin,

º11 Asareia hefyd mab Hiloeia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog t DDUW;

º12 Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Maloeia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.

º13 A’u brodyr, pennaf ar dy eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ DDUW.

º14 Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,

º15 Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;

º16 Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.

º17 Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf;

º18 A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Left oedd borthorion.

º19 Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr ARGLWYDD, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.

º20 Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r AR¬GLWYDD ydoedd gydag ef.

º21 Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.

º22 Hwynt oll y rhai a etholasid yn, I borthorion with y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt-hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.

º23 Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.

º24 Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.

º25 A’u brodyr, y rhai oedd yn eu tref¬ydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt.

º26 Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ DDUW.

º27 Ac o amgylch tŷ DDUW y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruch-wyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore.

º28 Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.

º29 A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd.

º30 Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd.

º31 A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf-anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell.

º32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth.

º33 A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.

º34 Dyma bennau-cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.

º35 Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:

º36 A’i fab cyntaf-anedig efoedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,

º37 A Gedor, ac Ahio, a Sechareia a Micloth.

º38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.

º39 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.

º40 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribaal a genhedlodd Micha.

º41 A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.

º42 Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac