Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/433

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Azmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa:

º43 A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.

º44 Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.

PENNOD 10

º1 AR Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.

º2 A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul.

º3 A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen Bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion.

º4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwan fi ag ef, rhag dyfod y rhai dien-waededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnai, cany ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno.

º5 A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw.

º6 Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd.

º7 A phan welodd holl wŷr Israel, y rhaixxx edd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant a’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philist¬iaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.

º8 A thrannoeth, pan ddaeth y Philist¬iaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym toynydd Gilboa.

º9 Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ittdangos i’w delwau, ac i’r bobl.

º10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ Su duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.

º11 A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul,

º12 Pob gŵr nerthol a godasant, ac. a jSymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwmod.

º13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr AR¬GLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori a dewines, i ymofyn & hi;

º14 Ac heb ymgynghori a’r ARGLWYDD: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y ftenhmiaeth i Dafydd mab Jesse.

PENNOD 11

º1 NA holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni.

º2 Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i- mewn ac allan: a dywedodd yr AR¬GLWYDD dy DDUW wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.

º3 A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD trwy law Samuel. .

º4 A Dafydd a holl Israel a aeth i y Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yn y Jebusiaid oedd drigolion y tir.

º5 A thrigolion Jebus a ddywedasant ftrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dwr Seion, yr hwn yw ‘dinas Dafydd.

º6 A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgyn-tiodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf.

º7 A thrigodd Dafydd yn y twr: oher-ifcydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd.

º8 Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas.