Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/438

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º8 O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant.

º9 O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a’i frodyr, pedwar ugain.

º10 O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a’i frodyr, cant a deuddeg.

º11 A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab,

º12 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau-cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel i’r lle a baratoais iddi hi.

º13 Oherwydd nas gwnaethoch o’r dech-reuad, y torrodd yr ARGLWYDD ein Duw arnorn ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.

º14 Felly yr offeiriaid, a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel.

º15 A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

º16 A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.

º17 Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.

º18 A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semira-moth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, y porthorion.

º19 Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio a symbalau pres.

º20 A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth.

º21 A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obededom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt a thelynau ar y Seminith i ragori.

º22 Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gan: efe a ddysgai eraill am y gan, canys cyfarwydd ydoedd.

º23 A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch.

º24 A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obededom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch.

º25 Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr AR¬GLWYDD o dŷ Obededom mewn llawenydd.

º26 A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.

º27 A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gan, a’r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.

º28 A holl Israel a ddygasant i fyny arch -cyfamod yr ARGLWYDD a bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau.

º29 A phan ydoedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

PENNOD 16

º1 FELLY y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw.

º2 Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd; efe a fendithiodd y bobl yn enw yr ARGLWYDD.

º3 Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chosttelaid o win.

º4 Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori AR¬GLWYDD DDUW Israel.

º5 Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac