Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/439

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Eliab, a Benaia, ac Obededom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio a symbalau.

º6 Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw.

º7 Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr ARGLWYDD, yn llaw Asaff a’i frodyr.

º8 Moliennwch yr ARGLWYDD, gerwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.

º9 Cehwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau. .

º10 Ymlawenychwch yn ei enw sanct-aidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr ARGLWYDD.

º11 Ceiswch yr ARGLWYDD a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.

º12 Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaet& efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau;

º13 Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef.

º14 Efe yw yr ARGLWYDD ein Duw ni, farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.

º15 Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fit ogenedlaethau;

º16 Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac:

º17 Ac a osododd efe yn ddeddf ‘i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol - i Israel,

º18 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf <dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. "19 Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi; ‘

º20 A phan rodient o genhedlaeth -i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at batil ‘eraill; 21 Ni adawodd efe i neb eu gorthrymui ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd,:

º22 Na chyffyrddwch a’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

º23 Cenwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd eii iachawdwriaeth ef.

º24 Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd. -

º25 Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.

º26 Oherwydd holl dduwiau y bot)-toedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYB6 a wnaeth y nefoedd.

º27 Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.

º28 Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi deu- luoedd y ‘bobloedd, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.,

º29 Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch gerei fron ef; ymgrymwch i’r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd. "

º30 Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y fcyd hefyd a sicrheir, fel na syflo.

º31 Ymlawenyched y nefoedd, ac ymfay*. fryded y ddaear, a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu.

º32 Rhued y môr a’i gyflawnder; llawen-fcaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo.

º33 Yna prennau y coed a ganant o jBaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dyfod i Marnu y ddaear.

º34 Clodforwch yr ARGLWYDD; . canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

º35 A dywedwch, Achub ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i feliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymo-goneddu yn dy foliant.

º36 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr ARGLWYDD.

º37 Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, Asaff a’i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:

º38 Ac Obededom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obededom hefyd mab Jedu-thun, a Hosa, i fod yn borthorion:

º39 Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernad yr AR¬GLWYDD, yn yr uchelfa oedd yn Gib’eon,

º40 I offrymu poethoffrymau i’r AR¬GLWYDD ar allor y poethoffrwm yn was¬tadol fore a hwyr, yu ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, yr hon a orchmynnodd efe i Israel:

º41 A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y