Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/440

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr ARGLWYDD, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd:

º42 A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, r yn lleisio ag utgyrn, ac a symbalau i’r cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth.

º43 A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dy yntau.

PENNOD 17

º1 A PHAN oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywededd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD dan gortynnau.

º2 Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae Duw gyda thi.

º3 A’r noson honno y daeth gair DUW at Nathan, gan ddywedyd,

º4 DOS, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Nid-adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo.

º5 Canys ni phreswyliais i mewn tŷ e« y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac Q dabernacl bwygilydd. . ;

º6 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?

º7 Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yrt dywysog ar fy mhobl Israel.

º8 A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear.

º9 Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf,

º10 Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyng-af hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr ARGLWYDD i ti dŷ.

º11 A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibien di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef.

º12 Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth.

º13 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di.

º14 Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair efa sicrheir byth, . .! . .

º15. Yn ôl yr holl eiriau hyiii,:ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

º16 A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O ARGLWYDO) DDUW, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?

º17 Eto bychan yw hyn yn dy olwg di,’ O DDUW; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O ARGLWYDD DDUW, fel ar gyflwr dyn uchelradd.

º18 Pa beth a chwanega Dafydd ei ddy¬wedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was.

º19 ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd.

º20 O ARGLWYDD, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom a’n clustiau.

º21 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft?

º22 Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, a aethost yn DDUW iddynt hwy. .

º23 Am hynny yr awr hon, ARGLWYDD, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dy ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.

º24 A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan