Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/441

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddywedyd* ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel , sydd DDUW i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di.

º25 Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dy iddo ef: am hyrmy y cafodd dy was weddïo ger dy fron di.

º26 Ac yr awr hon, ARGLWYDD, ti ydwyt DDUW, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn;

º27 Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O ARGLWYDD, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.

PENNOD 18

º1 A DARFU wedi hyn, i Dafydd daro’r Philistiaid, a’u darostwng hwynt, a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philist¬iaid.

º2 Hefyd efe a drawodd Moab; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth.

º3 Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates.

º4 A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.

º5 A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

º6 A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth.

º7 A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem.

º8 Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, a’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a’r colofnau, a’r llestri pres.

º9 A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba;

º10 Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.

º11 Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.

º12 Ac Abisai mab Setfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.

º13 Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.

º14 A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl.

º15 A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;

º16 A Sadoc mab Ahitub, ac Abi-melech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd;

º17 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Felethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.

PENNOD 19

º1 A ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meib¬ion Ammon farw; a’i fab a deyrnas¬odd yn ei le ef.

º2 A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad a myfi gar¬edigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meib¬ion Ammon, at Hanun, i’w gysuro ef.

º3 A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti?