Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/442

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º4 Yna y cymerth Hanun weision Da¬fydd, ac a’u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth en cluniau, ac a’u gyrrodd hwynt ymaith.

º5 A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.

º6 Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria-maacha ac o Soba.

º7 A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a’i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinas¬oedd, ac a ddaethant i ryfel.

º8 A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.

º9 A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilitu yn y maes.

º10 A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid.

º11 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinas¬ant yn erbyn meibion Ammon.

º12 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gyn-horthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th gyn-orthwyaf dithau.

º13 Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

º14 Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef.

º15 A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i’r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.

º16 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt.

º17 A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef.

º18 Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed, ac a laddodd Soffach capten y llu.

º19 A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant a Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meib* ion Ammon mwyach.

PENNOD 20

º1 TT ARFU hefyd wedi gorffen y flwydd- yn, yn amser myned o’r bren¬hinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meib¬ion Ammon, ac efe a ddaeth ac a war-chaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba; ac a’i dinistriodd hi.

º2 A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac ef& a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas.

º3 A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt a llifiau, ac ag ogau heyrn, ac a bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd a holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.

º4 Ac at ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr, felly y darostyngwyd hwynt.

º5 A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a ladd-<?dd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.