Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/443

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º6 Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr.

º7 Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef.

º8 Y rhai hyn a anwyd i’r eawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a fhrwy law iweision ef.

PENNOD 21

º1 A SATAN a safodd i fyny yn erbyn Ax Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel.

º2 A dywedodd Dafydd with Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch. Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt.

º3 A dywedodd Joab, Chwaneged yr ARGLWYDD ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweis* ion i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel?

º4 Ond gair y brenin a fu drech na Joab:. a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.

º5 A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf, a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil’ a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf.

º6 Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin.

º7 A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel.

º8 A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.

º9 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,

º10 DOS, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr AR-(SLWYDD, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti.

º11 Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cymer i ti

º12 Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddi-weddyd; ai ynteu cleddyf yr ARGLWYDD, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd.

º13 A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr ARGLWYDD, canys ei drugareddau ef ydynt arni iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.

º14 Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr.

º15 A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr ARGLWYDD a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywed-i odd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Oman y Jebusiad.;

º16 A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefylli rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerw¬salem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.

º17 A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O AR¬GLWYDD fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dy fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.

º18 Yna tfngel yr ARGLWYDD a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r AR¬GLWYDD yn llawr dyrnu Oman y Je¬busiad.

º19 A Dafydd a aeth i fynu, yn ol