Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/444

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr ARGLWYDD.

º20 Yna y trodd Oman, ac a ganfu y? angel, a’i bedwar mab gydag efa ymguddiasant; ac Oman oedd yn dyrnu gwenith.

º21 A Dafydd a ddaeth at Oman; ac edrychodd Oman, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i xxx wyneb tua’r ddaear.

º22 A dywedodd Dafydd wrth Oman Moes i mi le y llawr dymu, fel yr adeilad-wyf ynddo allor i’r ARGLWYDD: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

º23 Ac Oman a ddywedodd wrth Dafydd) Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd-offrwm: hyn oll a roddaf.

º24 A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Oman, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r ARGLWYDD yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.

º25 Felly y rhoddes Dafydd i Oman am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.

º26 Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.

º27 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.

º28 Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r ARGLWYDD wrando arno ef yn llawr dyrnu Oman y Jebusiad, efe- a aberthodd yno.

º29 Ond tabernacl yr ARGLWYDD, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon:

º30 Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn a Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr ARGLWYDD.

PENNOD 22

º1 A DYWEDODD Dafydd, Hwn yw*iJL tŷ yr ARGLWYDD DDUW, a dyma allor y poethoffrwm i Israel.

º2 Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu .y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe*a osododd seiri meini i naddu cerrig; *nadd, i adeiladu tŷ DDUW.

º3 A pharat6dd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrthj. ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaethag nad oedd arno bwys;

º4 Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd.

º5 A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wiedydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratodd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.

º6 Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i ARGLWYDD DDUW Israel.

º7 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solo¬mon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw.

º8 Eithr gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dy i’m henw i, eanys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i.

º9 Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr Bbnydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei fldyddiau ef.

º10 Efe a adeilada dy i’m hcnw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth. !

º11 Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo. xxx gyda thi, a ffynna dithau, gc adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, megis ag y llefarodd efe amdanat ti.

º12 Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orch-inynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW.