Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/445

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º13 Yna y flynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel* ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda.

º14 Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i, ychwanega dithau atynt hwy.

º15 Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.

º16 Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r ARGLWYDD a fydd gyda thi.

º17 A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd,

º18 Onid yw yr ARGLWYDD eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddaros-tyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef.

º19 Yn awr rhoddwch eich calon a’ch .enaid i geisio yr ARGLWYDD eich Duw; lyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr AR¬GLWYDD.

PENNOD 23

º1 A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel.

º2 Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid.

º3 A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.

º4 O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr ARGLWYDD, ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil:

º5 A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD a’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.

º6 A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.

º7 O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.

º8 Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.

º9 Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau-cenedl Laadan.

º10 Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei.

º11 A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dy eu tad.

º12 Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.

º13 Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sanct-eiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.

º14 A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi.

º15 Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser.

º16 O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf.

º17 A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr.

º18 O feibion Ishar; Selomith y pennaf.

º19 O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.

º20 O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.

º21 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis.

º22 A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt.

º23 Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jenmoth, tri.

º24 Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth