eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd, o fab ugain mlwydd ac uchod.
º25 Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i’w bobl, i aros yn Jerwsalem byth;
º26 A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o’i lestri, i’w wasanaeth ef.
º27 Canys yn ol geiriau diweddaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod:
º28 A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac y'ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw;
º29 Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd-offrwm, ac yn y teisenau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrïo, ac ym mhob mesur a meidroldeb:
º30 Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd, felly hefyd brydnawn:
º31 Ac i offrymmu pob offrwrn poeth i’r Arglwydd ar y Sabbathau, ar y newydd-loerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ol y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr Arglwydd:
º32 Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cyssegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, y'ngwasanaeth tŷ yr Arglwydd.
PENNOD XXIV.
º1 Dosparthu meibion Aaron yn bedwar ar hugain o ddosparthiadau wrth goelbren. 20 Rhannu y Cohathiaid 27 a'r Merariaid wrth goelbren.
DYMA ddosparthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.
24:2 A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleazar ac Ithamar a offeiriadasant.
º3 A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleazar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ol eu swyddau, yn eu gwasanaeth.
º4 A chafwyd mwy o feibion Eleazar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleazar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ol tŷ eu tadau, wyth.
º5 Felly y dosparthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyd â’r llall; canys tywysogion y cyssegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleazar, ac o feibion Ithamar.
º6 A Semaiah mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt ger bron y brenhin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abïathar, a phen-cenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleazar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar.
º7 A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a’r ail i Jedaiah,
º8 Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,
º9 Y pummed i Malchïah, y chweched i Mijamin,
º10 Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abïah,
º11 Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechanïah,
º12 Yr unfed ar ddeg i Elïasib, y deuddegfed i Jacim,
º13 Y trydydd ar ddeg i Huppah, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab,
º14 Y pymthegfed i Bilgah, yr unfed ar bymtheg i Immer,
º15 Y ddeufed ar bymtheg i Hezir, y deunawfed i Aphses,
º16 Y pedwerydd ar bymtheg i Pethahïah, yr ugeinfed i Jehesecel,
º17 Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,
º18 Y trydydd ar hugain i Delaiah, y pedwerydd ar hugain i Maazïah.
º19 Dyma eu dosparthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ol eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchymynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.
º20 A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeiah.
º21 Am Rehabïah; Isïah oedd ben ar feibion Rehabïah.
º22 O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath.
º23 A meibion Hebron oedd, Jerïah y cyntaf, Amarïah yr ail, Jahaziel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.
º24 O feibion Uzziel; Michah: o feibion Michah; Samir.
º25 Brawd Michah oedd Isïah; o feibion Isïah; Zecharïah.
º26 Meibion Merari oedd, Mahli, a Musi: meibion Jaazïah; Beno.