º27 Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a;;Soham, a Saccur, ac Ibri.
º28 O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion.
º29 Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel.
º30 A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau.
º31 A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau-cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuaagaf.
PENNOD 25
º1 A NEILLTUODD Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent a thelynau, ac .a nablau, ac a symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd:
º2 O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin.
º3 A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jes’aia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr ARGLWYDD.
º4 O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidaiti, a Romamti-ieser, Josbecasa, Malothi, Ho-thir, a Mahasioth:
º5 Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau DUW, i ddyrchafu’r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched.
º6 Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr ARGLWYDD, a symbalau, a? nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ DDUW; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman.
º7 A’u nifer hwynt, ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr ARGLWYDD, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
º8 A hwy a fwriasant goelbrennau, ylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl.
º9 A’r coelbren cyntaf a ddaeth dras Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. iio Y trydydd i Saccur; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º11 Y pedwerydd i Isri; efe, a’i feibi B a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º12 Y pumed i Nethaneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º13 Y chweched i Bucceia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º14 Y seithfed i Jesarela; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
ºl5 Yr wythfed i Jesaia; efe a’i feibion a’d frodyr oedd ddeuddeg.
º16 Y nawfed i Mataneia; efe, a’i feibion afi frodyr oedd ddeuddeg.
º17 Y degfed i Simei; efe, a’i feibion a’i’ frodyr oedd ddeuddeg.
º18 Yr unfed ar ddeg i Asareel, efe a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º19 Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a’r feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º20 Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º21 Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeu¬ddeg.
º22 Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º23 Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º24 Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º25 Y deunawfed i Hanani; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º26 Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º27 Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. *
º28 Yr unfed ar hugain i Hothir; efe,? ail feibion a’i frodyr oedd’ ddeuddeg.
º29 Y ddeufed ar hugain ‘i Gidaiti; efe,., a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º30 Y trydydd ar hugain i Mahasioth,. efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
º31 Y pedwerydd ar hugain i Romamti-eser; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
PENNOD 26