Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

29 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyd â myfi.

30 Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn llïosowgrwydd y cynnyddodd; o herwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun?

31 Dywedodd yntau. Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a attebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.

32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddyw, gan neillduo oddi yno bob llwdn mân-frith a mawr-frith, a phob llwdn coch-ddu ym mhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a’r mân-frith ym mhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog.

33 A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyd â mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith ym mhlith y geifr, neu goch-ddu ym mhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyd â myfi.

34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ol dy air di!

35 Ac yn y dydd hwnnw y neillduodd efe y bychod cylch-frithion a mawr-frithion, a’r holl eifr mân-frithion a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwỳn arno, a phob coch-ddu ym mhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun.

36 Ac a osododd daith tri niwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

37 ¶ A Jacob a gymmerth iddo wïail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwỳnion, gan ddatguddio y gwỳn yr hwn ydoedd yn y gwïail.

38 Ac efe a osododd y gwïail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwtterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai y praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.

39 A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwïail; a’r praidd a ddug rai cylch-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.

40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tu ag at y cylch-frithion, ac at bob coch-ddu ym mhlith praidd Laban; ac a osododd ddïadellau iddo ei hun o’r neilldu, ac nid gyd â phraidd Laban y gosododd hwynt.

41 A phob amser y cyfebrai y defaid cryfaf, Jacob a osodai y gwïail o flaen y praidd yn y cwtterydd, i gael o honynt gyfebru wrth y gwïail;

42 Ond pan fyddai y praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Jacob.

43 A’r gwr a gynnyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morwynion, a gweision, a chamelod, ac asynod.

Pennod XXXI.

1 Jacob ar sorriant yn ymadael yn ddirgel. 19 Rahel yn lladratta delwau ei thad. 22 Laban yn canlyn ar ei ol ef, 26 ac yn achwyn rhag y cam. 34 Dyfais Rahel i guddio y delwau. 36 Jacob yn achwyn o herwydd Laban. 43 Y cyfammod rhwng Laban a Jacob yn Galeed.

Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni, ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.

2 Hefyd Jacob a welodd wynebpryd Laban, ac wele, nid ydoedd tu ag atto ef megis cynt.

3 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyd â thi.

4 A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Leah i’r maes, at ei braidd,

5 Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynebpryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tu ag attaf fi: a Duw fy nhad a fu gyd â myfi.

6 A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad.

7 A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond nis dïoddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.

8 Os fel hyn y dywedai; Y mân-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a eppilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a eppilient rai cylch-frithion.

9 Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a’u rhoddes i mi.

10 Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, ddyrchafu o honof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llammu y praidd,) yn