glych-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion.
11 Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a attebais, Wele fi.
12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwel yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu y praidd yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.
13 Myfi yw Duw Bethel, lle yr enneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.
14 A Rahel a Lea a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes etto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?
15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a’n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.
16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a’n plant a’i pïau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.
17 ¶ Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod;
18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a’i holl gyfoeth yr hwn a ennillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a ennillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.
19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladrattasai y delwau oedd gan ei thad hi.
20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.
21 Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.
22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.
23 Ac efe a gymmerth ei frodyr gyd âg ef, ac a erlidiodd ar ei ol ef daith saith niwrnod; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.
24 A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan o honot wrth Jacob na da na drwg.
25 ¶ Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead.
26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.
27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladratteaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?
28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffol, gan wneuthur hyn.
29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.
30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladratteaist fy nuwiau i?
31 A Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni o honof; oblegid dywedais, Rhag dwyn o honot dy ferched oddi arnaf trwy drais.
32 Gyd â’r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: ger bron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyd â myfi, a chymmer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladrattasai hwynt.
33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Leah, ac i babell y ddwy law-forwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Leah, ac y daeth i babell Rahel.
34 A Rahel a gymmerasai y delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd.
35 A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.
36 ¶ A Jacob a ddigiodd, ac a roes sèn i Laban: a Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid o honot ar fy ol?