37 Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma ger bron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau.
38 Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyd â thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwytteais hyrddod dy braidd.
39 Ni ddygais ysglyfaeth attat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrattêid y dydd, a’r hyn a ladrattêid y nos.
40 Bûm y dydd, y gwres a’m treuliodd, a rhew y nos; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid.
41 Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferched, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau.
42 Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyd â mi, dïau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylaw, ac a’th geryddodd di neithiwyr.
43 ¶ Laban a attebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a’r praidd yw fy mhraidd i; a’r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddyw pa beth a wnaf i’m merched hyn, ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant?
44 Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfammod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.
45 A Jacob a gymmerth garreg, ac a’i cododd hi yn golofn.
46 Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymmerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwyttasant yno ar y garnedd.
47 A Laban a’i galwodd hi Jeger-Sahadutha: a Jacob a’i galwodd hi Galeed.
48 A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddyw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,
49 A Mispah; oblegid efe a ddywedodd, Gwilied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.
50 Os gorthrymmi di fy merched, neu os cymmeri wragedd heb law fy merched i; nid oes neb gyd â ni; edrych, Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau.
51 Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi:
52 Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon attat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon attaf fi, er niwed.
53 Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.
54 Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara: a hwy a fwyttasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.
55 A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.
Pennod XXXII.
1 Gweledigaeth Jacob ym Mahanaim. 3 Ei gennadwriaeth at Esau. 6 Mae efe yn ofni dyfodiad Esau. 9 Yn gweddïo am ymwared. 13 Yn anfon anrheg i Esau. 24 Yn ymdrech âg angel yn Peniel; lle y gelwir ef Israel. 31 Mae efe yn cloffi.
A Jacob a gerddodd i’w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu âg ef.
2 A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.
3 A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:
4 Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyd â Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.
5 Ac y mae i mi eidionau, ac asynod, defaid, a gweision, a morwynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
6 ¶ A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef.
7 Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a ran-